Ioga a Thylino Babi
Yn Iogis Bach rydym yn helpu rhieni a’u rhai bach trwy ddysgu sgiliau iddyn nhw arafu, ymlacio a sylwi ar yr eiliadau bach hynny sy’n gwneud i ni deimlo’n dda. Mae pob un o’n dosbarthiadau a’n cyrsiau yn rhoi’r un pwyslais arnoch chi fel rhiant yn ogystal â’ch babi. Rydym yn ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio i'ch helpu i ailosod a dadflino yn feddyliol, yn gorfforol ac yn ysbrydol.
Mae'r cyrsiau, dosbarthiadau a gweithdai yn cael eu cynnal ar draws Gwynedd a Môn.
Ioga Babi
Cyfres 5 wythnos sy'n addas o 12+ wythnos sy'n cefnogi camau datblygiadau eich rhai bach gyda ioga. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys rhyngweithio hwyliog a chwareus i chi a'ch babi. Cyflwyniad ysgafn i ioga ôl geni a ffordd wych i ddarganfod lefel ddyfnach o hunan ofal.
Ioga ac Ymlacio Beichiogrwydd
Tra bod na symudiadau i ymestyn yn addfwyn, lleddfu a chryfhau cyhyrau blinedig. Mae na hefyd bwyslais ar y pwysigrwydd o orffwys ac anadlu’n ddwfn yn ein sesiynau ioga ac ymlacio beichiogrwydd.
Tylino Babi
Cwrs 5 wythnos sy'n addas o 4+ wythnos i helpu i gryfhau'r cysylltiad â'r bond gyda’ch babi. Bydd y tips a'r technegau a ddysgir yn cynorthwyo cwsg, treulio, poen dannedd ac ymlacio. Mae hwn yn grŵp bach, cyfeillgar a gofalgar sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i dylino'ch babi.
Ioga ôl enedigol
Ffocws y dosbarthiadau hyn yw creu gofod meithringar i ferched adfer yn egnïol, ennill ymdeimlad o berthyn ac ymadfer ar ôl beichiogrwydd, genedigaeth a’r heriau dydd i ddydd. Croeso cynnes i'r rhai bach ddod gyda chi.
Ioga i Blant Bach
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ioga i blant bach a phlant. Y nod yw creu amgylchedd tawel i gael amser difyr a hwyliog gyda'ch plentyn. Cyflwyniad hwyl a syml i feddwlgarwch drwy chwarae a chrefftau meddylgar.
Ioga i Blant
Sesiynau ioga a meddwlgarwch i blant ar gael yn y gymuned neu fel clwb ar ôl ysgol. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.